Ymgysylltu a Dylanwadu Mae Medrwn Môn yn gweithio i sicrhau y gall mudiadau ddylanwadu’n effeithiol ar bolisi, graffu ar wasanaethau cyhoeddus a chynnig llwybr at gyfranogiad sifil - yn enwedig grwpiau dan anfantais a lleiafrifoedd. Lledaenu gwybodaeth: Darparu gwybodaeth yn rheolaidd am ddatblygiadau polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol trwy ein gwefan, bwletinau, y cyfryngau cymdeithasol a blogiau. Arweniad i gysylltu mudiadau â sianeli dylanwadu cenedlaethol, rhanbarthol a lleol: Rhoi cyngor ar sut i gysylltu â’r sianeli mwyaf addas ar gyfer dylanwadu ar bolisïau yn eich maes gwaith ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Rhwydweithiau a digwyddiadau: Cysylltu mudiadau o’r un anian drwy rwydweithiau thematig a digwyddiadau, i rannu gwybodaeth, dysgu oddi wrth ei gilydd ac ysgogi newid positif. Sicrhau a galluogi dylanwad y trydydd sector: Sicrhau bod y trydydd sector yn cael ei gynnwys yn nhrefniadau llywodraethu’r sector cyhoeddus. Meithrin sgiliau a gallu’r sector mewn dylanwadu ac ymgyrchu: Cyflwyno rhaglen ddysgu a datblygu sydd ar gael i bawb er mwyn cynyddu gallu a sgiliau dylanwadu’r trydydd sector.