Amdanom Ni Ein Datganiad o Fwriad Nod Medrwn Môn ydy hyrwyddo a chefnogi gwirfoddoli, mudiadau gwirfoddol a chymunedol drwy weithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau ar Ynys Môn i sicrhau eu bod yn chwarae rhan lawn a blaenllaw i ddatblygu potensial yr Ynys. Mae Medrwn Môn yn asiantaeth annibynnol sy’n darparu cefnogaeth a chyngor i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i’w galluogi i weithio’n fwy effeithiol. Gall Medrwn Môn helpu gyda: Darparu cyngor ymarferol a chefnogaeth i grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol ynglŷn â : Cyllido cynaliadwy Gwirfoddoli Llywodraethu da Ymgysylltu a dylanwadu Cefnogi mudiadau gwirfoddol a chymunedol i ddatblygu a chynnal partneriaethau cryf a chyfleoedd i rwydweithio Hyrwyddo cyfleoedd i wirfoddoli a chymryd rhan yn y gymuned Adnabod anghenion hyfforddi, trefnu a darparu gweithdai hyfforddiant a chymorthfeydd cyllido Annog pobl, grwpiau a mudiadau i leisio eu barn am wasanaethau cyhoeddus a’u cymunedau Darparu gwasanaethau ymarferol a chefnogaeth weinyddol. Mae Medrwn Môn yn rhoi cymorth i gymunedau i: adnabod bylchau mewn darpariaeth y gellid eu cyflenwi drwy’r sector gwirfoddol a chymunedol datblygu mentrau lleol a phrosiectau sefydlu mentrau newydd. Mae Medrwn Môn yn chwarae rhan hanfodol wrth gynrychioli’r sector gwirfoddol a chymunedol drwy fynegi barn y sector i bartneriaethau, llywodraeth leol a chyrff statudol, ac felly sicrhau fod barn y sector yn cael ei glywed. Trwy weithio mewn partneriaeth ag eraill a thrwy ymateb yn bositif a dychmygus, bwriadwn gryfhau a rhoi grym i gymunedau drwy Ynys Môn. https://en.medrwnmon.org/mission-vision-values