Llywodraethu Da Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i'ch cynorthwyo gyda'ch gwaith fel ymddiriedolwr neu aelod o bwyllgor gwirfoddol er mwyn helpu datblygu eich sgiliau a gwybodaeth; ac i'ch cynorthwyo gyda rhedeg eich elusen/ grŵp cymunedol neu fudiad gwirfoddol yn gyfreithiol ac yn effeithiol. Ystyr 'ymddiriedolwr' ydy aelod o bwyllgor rheoli, pwyllgor gwaith neu fwrdd cyfarwyddwyr grŵp cymunedol neu fudiad gwirfoddol. Yn aml mae ymddiriedolwyr yn defnyddio teitlau eraill megis: cyfarwyddwyr, aelodau'r bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau'r pwyllgor. Yn yr adran hon o'r wefan gallwch weld: Taflenni gwybodaeth i ymddiriedolwyr am faterion cyffredinol Adnoddau defnyddiol eraill i ymddiriedolwyr Gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau sydd ar y gweill i ymddiriedolwyr Dolenni i wefannau eraill sy'n rhoi gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i ymddiriedolwyr Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei angen arnoch, neu os oes gennych gwestiwn penodol yr hoffech ei ofyn, mae croeso i chi gysylltu â ni.