Skip over main navigation
  • Log in
  • Basket: (0 items)
MedrwnMonCymru
  • Trydar
  • Facebook
English
Menu
  • COVID-19
    • COVID-19 - Gwybodaeth
    • E-Fwletin Covid-19
    • Canllawiau Ailagor Canolfannau Cymunedol
  • Amdanom Ni
    • Ein Datganiad o Fwriad
    • Ein Pobl
      • Ein Staff
      • Aelodau'r Bwrdd
      • Ein Trefn Lywodraethu
      • Ein Swyddi
      • Ein Noddwyr a Phartneriaid
    • Ein Heffaith
  • Newyddion a Digwyddiadau
    • Newyddion Diweddaraf
    • Ein Newyddlen
    • Digwyddiadau
  • Unigolion a'r Gymuned
    • Cysylltu Pobl
      • Linc Cymunedol Môn
      • Car Linc Môn
    • Gweithgareddau Cymunedol
    • Cyfeiriadur Cludiant Cymunedol Môn
    • Lleoliadau Cymunedol i'w Llogi
    • Eisiau gwirfoddoli?
      • Be ydy gwirfoddoli?
      • Sut i wirfoddoli
      • Cyfleoedd gwirfoddoli
    • Eich Llais
      • Llais Ni
      • Panel Dinasyddion
      • Cynllunio Lle
  • Grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol
    • Cyllid Cynaliadwy
    • Llywodraethu Da
    • Gwirfoddoli
    • Ymgysylltu a Dylanwadu
    • Gwybodaeth
  • Admin
    • Log in
  • Basket: (0 items)
  • CAR LINC MÔN

CAR LINC MÔN

Cynllun cludiant cymunedol cymdeithasol gwirfoddol ar Ynys Môn ydy Car Linc Môn. Mae’r gwasanaeth ar gael i bobl sydd heb unrhyw ffordd arall o wneud teithiau hanfodol.

Mae’r cynllun yn bennaf ar gyfer ardaloedd gwledig lle mae gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn brin, ond hefyd ar gyfer pobl sydd ddim yn ddigon ffit i ddefnyddio cludiant cyhoeddus - yn y wlad neu’r dref. Ers sefydlu’r cynllun yn 2001 mae Car Linc Môn yn darparu gwasanaeth teithio hanfodol i bobl sydd angen mynd i:

  • Apwyntiad ysbyty
  • Ymweld â’r meddyg, deintydd, optegydd
  • Mynychu Canolfan Gofal Dydd
  • Casglu presgrisiwn
  • Siopa
  • Ymweld â pherthnasau neu ffrindiau sy’n sâl.

Pwy sy’n trefnu ‘Car Linc Môn’?                                                                     

Mae’r cynllun yn cael ei redeg o ddydd i ddydd o swyddfa Medrwn Môn yn Llangefni (dydd Llun i ddydd Gwener, 9 a.m. - 4 p.m.).  Bydd aelod o staff Medrwn Môn yn gyfrifol am gymeradwyo pob cais am gludiant, yn trefnu i yrwyr gwirfoddol wneud pob taith, ac yn cynnig arweiniad petae unrhyw anawsterau’n codi.

Sut mae ‘Car Linc Môn’ yn gweithio?                                                                                                                

Pan fydd person sydd angen cludiant ar gyfer taith hanfodol yn cysylltu â Medrwn Môn, bydd aelod o staff yn cofnodi’r manylion, yn cadarnhau bod y daith yn gymwys, ac yn ffonio i gael hyd i yrrwr sy’n gallu gwneud y siwrne. Mae angen o leiaf 3 diwrnod o rybudd, a lle bo modd, trefnir teithiau sy’n cyfuno anghenion nifer o deithwyr. Bydd amcan bris, a’r dull o dalu wedi cael eu trefnu cyn y siwrne, ynghyd ag unrhyw drefniadau eraill e.e. amser dychwelyd, os oes angen hebryngydd, a oes gan y defnyddiwr gwasanaeth fathodyn glas a.y.b.

Bydd pob cais y cael ei asesu yn ôl ei haeddiant. Mae mynediad i’r gwasanaeth fwy nag unwaith yr wythnos yn bosibl, ond dim ond yn unol â disgresiwn Medrwn Môn.

Pwy sy’n cael defnyddio ‘Car Linc Môn’?                                                                                                     

Mae Car Linc Môn yn wasanaeth sydd ar gael i drigolion Ynys Môn (50+ oed) ar gyfer gwneud teithiau hanfodol ar adegau lle nad oes cludiant addas arall ar gael. Cyfrifoldeb Medrwn Môn ydy penderfynu os ydy taith benodol yn gymwys, ond mae’r rhestr wirio isod yn rhoi arweiniad o ran y meini prawf i gael defnyddio’r gwasanaeth:-

  • Oes gan y teithiwr fynediad i unrhyw gludiant preifat e.e. car ei hun?
  • Oes unrhyw gludiant cyhoeddus y gallai’r teithiwr ei ddefnyddio?
  • Ydy hi’n bosib i’r teithiwr newid amser y daith er mwyn gallu defnyddio ffordd arall o deithio?
  • Ydy hi’n bosib i’r teithiwr ddefnyddio Gwasanaeth Car yr Ambiwlans?
  • Ydy hi’n rhesymol i’r teithiwr logi tacsi ar gyfer y daith?
  • Ydy hi’n rhesymol i’r teithiwr osgoi gwneud y daith yn gyfan gwbl?

Os mai’r ateb i unrhyw gwestiwn uchod ydy OES neu YDY – yna Ni fyddai’r daith fel arfer yn un ddilys.

Cost y Gwasanaeth

Cost pob taith hefo Car Linc Môn ydy £4.50 am y 6 milltir cyntaf, ac yna 55c y filltir wedyn. Er enghraifft, byddai taith o Langefni i Ysbyty Gwynedd ac yn ôl (taith o 19 milltir) yn costio £11.65 (sef £4.50 am y 6 milltir cyntaf a £7.15 am y 13 filltir arall). Fe fydd y gyrrwr yn derbyn 50c y filltir am bob siwrne. Swyddog o Medrwn Môn sydd yn gweinddu’r holl daliadau.

Gyrwyr Gwirfoddol            

                                                                   

Medrwn Môn sydd yn recriwtio gyrwyr gwirfoddol ar gyfer Car Linc Môn drwy hysysebu yn y wasg, gosod posteri mewn mannau cyhoeddus, a holi ar lafar. Mae’r cynllun yn edrych am wirfoddolwyr newydd yn gyson er mwyn cyflenwi’r gwasanaeth i’r holl ddefnyddwyr ar draws Ynys Môn.

Cyn taith gyntaf y gwirfoddolwr, bydd Medrwn Môn yn trefnu gwiriad ‘DBS’ i bob gyrrwr ac yn gofyn fod gan bob gyrrwr y canlynol:

  • Trwydded Yrru Ddilys
  • Tystysgrif MOT
  • Tystysgrif yswiriant cynhwysfawr

Rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019 fe wnaeth Car Linc Môn drefnu 719 siwrne - cyfanswm o 18,109 milltir

   

CAR LINC MÔN – 01248 725745

[email protected]  

 

                                                                                                                  

    Published: 8th May, 2019

    Updated: 9th April, 2020

    Author: Sian Morgan

    Share this page
    • Email
    • Facebook
    • Twitter

    Latest

    • Canllawiau Ailagor Canolfannau Cymunedol

    • E-Fwletin Covid-19

    • DIWRNOD DATHLU POBL HŶN

      DIWRNOD DATHLU POBL HŶN

    • Gwobr Gymunedol i Medrwn Môn

      Gwobr Gymunedol i Medrwn Môn

    Most read

    • LINC CYMUNEDOL MÔN

      LINC CYMUNEDOL MÔN

      LINC CYMUNEDOL MÔN - Eich linc i weithgareddau cymunedol er mwyn gwella eich iechyd a'ch lles

    • Amdanom Ni

    • Gweithgareddau Cymunedol

    • Swyddi Gwag

    • Training and development

      Replace this with your content

    • Set up a group

      Replace this with your content

    • Terms and Conditions

      A summary of the terms of use for this site and the conditions and licensing for reproduction

    • Ein Datganiad o Fwriad

    • Guest blog from member

      Replace this with your content

    • E-Fwletin Covid-19

    Tanysgrifiwch i dderbyn ein newyddlen

    Please enter your first name
    Please enter your last name
    Please enter your email address Please enter a valid email address (e.g. [email protected])

    Cysylltwch â ni:

    Medrwn Môn
    Neuadd y Dref, Sgwâr Bulkeley,
    LLANGEFNI , Ynys Môn
    LL77 7LR

    Ffôn: 01248 724944
    E-bost: [email protected]
    Ffacs: 01248 750149

    Gweinyddiaeth

    Mewngofnodi

    Allgofnodi

    Dilynwch ni

    • Trydar
    • Facebook

    Rhif Cwmni 4197934 | Rhif Elusen Cofrestredig 1088828

      • Map Safle
      • Hygyrchedd
      • Termau ac Amodau
      • Polisi Preifatrwydd