Menter gymdeithasol flaengar ar Ynys Môn yn ennill gwobr Brydeinig Llongyfarchiadau i dafarn yr Iorwerth Arms, Bryngwran, am gael ei henwi ‘y dafarn gefn gwlad orau ym Mhrydain’ yn ddiweddar - yng Ngwobrau’r Cynghrair Cefn Gwlad (Countryside Alliance). Fe dderbyniodd y dafarn y wobr ‘Pencampwyr’ mewn seremoni fawreddog yn Llundain ym mis Mehefin - bum mlynedd yn unig ar ôl i’r Iorwerth Arms gau, a bron gael ei ddymchwel i wneud lle i adeiladu tai. Cafodd y beirniaid eu plesio hefo sut y llwyddodd y gymuned i achub y dafarn rhag cau, a’i datblygu’n ganolbwynt cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau lleol. Fe roddwyd y dafarn ar werth yn 2014 yn wreiddiol, a sicrhaodd pentrefwyr fenthyciad o £125,000 gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i sefydlu'r prosiect. Mae’r dafarn yn cael ei rhedeg gan fenter gymunedol ‘Bryngwran Cymunedol’. Sefydlwyd y fenter yn wreiddiol i gwrdd ag anghenion cymdeithasol a chynhyrchu refeniw i gynnal ei hun yr un pryd. Bellach mae’r adeilad wedi ei ddatblygu i fod yn ganolfan sy’n gallu cynnal popeth - o fedydd i angladd, i de pnawn, sesiynau iechyd ayb. Mae gan y dafarn ystafell gerdd ar gyfer gwersi piano a chegin newydd ei moderneiddio i gynnig bwyd lleol. Llongyfarchiadau i’r Cadeirydd Neville Evans, swyddogion ymroddedig eraill a gwirfoddolwyr dygn am ddatblygu'r gymuned mewn ffordd gynaliadwy – sy’n gofyn am gael y gallu i addasu i newid ac angen. Neville Evans a Hefin Edwards o’r Iorwerth Arms hefo Albert Owen AS ar ôl derbyn y wobr yn Llundain.