Gwasanaeth Newydd i bobol ifanc Môn Mae 12 aelod o ‘Llais Ni’ wedi treulio’r misoedd diwethaf yn cefnogi Barnardo’s wrth iddyn nhw sefydlu gwasanaeth llesiant ac iechyd meddwl newydd i bobl ifanc ar Ynys Môn. Mae gwasanaeth GOLAU yn brosiect sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros y tair blynedd nesaf, a bydd yn helpu plant a phobl ifanc rhwng wyth a deunaw oed ledled Ynys Môn. Mae criw ‘Llais Ni’ wedi bod yn gyfrifol am enwi’r gwasanaeth ac am g ynllunio’r logo a thaflenni gwybodaeth i GOLAU. Maen nhw hefyd wedi cynllunio gweithdy er mwyn cyfweld y gweithwyr llesiant newydd a helpu dylunio ystafelloedd therapi i gefnogi’r plant, y bobl ifanc a’u teuluoedd. Bydd GOLAU yn darparu cymorth un i un i’r rhai sy’n cael trafferthion ag amrywiaeth eang o broblemau, gan gynnwys profedigaeth, hunan-niweidio, iselder, arwahanrwydd cymdeithasol, bwlio, a theulu’n chwalu, a bydd yn gweithio gyda’u teuluoedd hefyd. Y nod ydy ymyrryd yn gynnar fel nad ydy plant yn datblygu problemau iechyd meddwl mwy difrifol. Braint oedd cael bod yn rhan o lansiad GOLAU. Diolch i Barnardo's am y cyfle i fod yn rhan bwysig o ddatblygiad y gwasanaeth a llongyfarchiadau mawr i'r bobl ifanc am eu gwaith caled! Dyma’r manylion cysylltu I GOLAU: Ffôn: 01248 751194 E-bost: [email protected]